DATGANIAD YSGRIFENEDIG

GAN

LYWODRAETH CYMRU

 

 


TEITL

 

Rheoliadau Pysgodfeydd Môr (Diwygio) 2023

 

DYDDIAD

 13 Mawrth 2023

GAN

Lesley Griffiths AS, Y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru a’r Trefnydd

 

 

Rheoliadau Pysgodfeydd Môr (Diwygio) 2023 (“Rheoliadau 2023”)

 

Bydd Aelodau o’r Senedd yn dymuno bod yn ymwybodol fy mod wedi rhoi cydsyniad i’r Ysgrifennydd Gwladol i DEFRA arfer pŵer cydredol i wneud is-ddeddfwriaeth mewn maes datganoledig mewn perthynas â Chymru.

 

Ar 11 Ionawr 2023, ceisiwyd cytundeb gan yr Arglwydd Benyon, y Gweinidog Bioddiogelwch, Materion Morol a Gwledig i wneud Offeryn Statudol o’r enw Rheoliadau Pysgodfeydd Môr (Diwygio) 2023. Mae Rheoliadau 2023 yn gymwys o ran Prydain Fawr a Gogledd Iwerddon.

 

Mae Rheoliadau 2023 wedi eu gwneud gan yr Ysgrifennydd Gwladol drwy arfer y pwerau a roddir gan adran 36(1)(b) a (c) o Ddeddf Pysgodfeydd 2020.

 

Mae Rheoliadau 2023 yn diwygio deddfwriaeth yr UE a ddargedwir sef Rheoliad y Cyngor (EU) 2020/123 (EUR 2020/123) mewn perthynas â rheoleiddio pysgodfeydd draenogiaid môr, cynyddu’r sgil-ddalfa a ganiateir yn unol â chyngor gwyddonol, yn ogystal â chysoni’r tymor caeëdig ar gyfer pysgotwyr masnachol a physgotwyr hamdden. Mae cŵn pigog (spurdog) sy’n 100cm o ran hyd neu yn llai na hynny yn cael eu tynnu o’r rhestr o rywogaethau gwaharddedig sydd wedi’i chynnwys yn Erthygl 16 o Reoliad y Cyngor (EU) 2020/123 (EUR 2020/123) er mwyn rhoi canlyniad Ymgynghoriad Pysgodfeydd 2022 yr UE-DU ynghylch cyfleoedd pysgota ar waith yn 2023. Yn ogystal â hynny, er mwyn gweithredu mesurau y cytunwyd arnynt yn Ardal Confensiwn y Comisiwn Rhyngwladol dros Gadwraeth Tiwna’r Iwerydd (ICCAT), mae’r rhestr o rywogaethau gwaharddedig sydd wedi’i chynnwys yn Erthygl 16 wedi ei diwygio er mwyn ychwanegu morgwn trwynfain (Isurus oxyrinchus) yn nyfroedd y Deyrnas Unedig a dyfroedd rhyngwladol ardal ICCAT.

 

 

 

Rhoddwyd cydsyniad gan fod y Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer canlyniad y trafodaethau rhyngwladol, a gynhaliwyd ar y cyd rhwng gweinyddiaethau’r pysgodfeydd, ac mae’n cyflawni rhwymedigaethau rhyngwladol y DU mewn perthynas â’r Cytundeb Masnach a Chydweithredu ac aelodaeth y DU o ICCAT. Yn ogystal â hynny, mae’r mesurau sy’n perthyn i ddraenogiaid môr yn gymwys i bysgodfa a rennir sy’n gweithredu o fewn Parth Cymru a’r tu hwnt iddo. Er mwyn iddynt fod yn effeithiol, mae angen iddynt fod yn gymwys ar sail y DU a bod yn gymwys i’r holl gychod sy’n gweithredu yn nyfroedd y DU. 

 

Gosodwyd Rheoliadau 2023 gerbron Senedd y DU ar 08/03/23 a byddant yn dod i rym ar 01/04/23.